2015 Rhif 1759 (Cy. 243)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei ystyried yn swm sy’n hafal i’r rhent yr amcangyfrifir y gellid disgwyl yn rhesymol gosod yr hereditament amdano o flwyddyn i flwyddyn (yn ddarostyngedig i ragdybiaethau penodedig). Yn yr achosion hynny pan nad oes gwybodaeth ar gael am y farchnad rentu gyffredinol ac na ellir defnyddio elw a cholled i roi awgrym o werth rhent, penderfynir, yn lle hynny, ar werth ardrethol hereditament annomestig drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Rhagnodir y cyfraddau hyn yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”).

Drwy wneud y Rheoliadau hyn a fydd yn cael effaith o 31 Hydref 2015, mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan reoliad 2 o Reoliadau 1989 ar gyfer rhestri ardrethu annomestig a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

 

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.assembly.wales/en/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=Laid%20Document.

 


2015 Rhif 1759 (Cy. 243)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed                                  8 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2015

Yn dod i rym                          31 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]), a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru([2]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Hydref 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989

2.(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989([3]) (prisio ar sail y contractwr) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (1D) hepgorer y geiriau “or after”.

(3) Ar ôl paragraff (1D) mewnosoder—

“(1E) Paragraph (2E) of this regulation applies in relation to a hereditament, shown in a non-domestic rating list in Wales compiled on or after 1 April 2017, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.”

(4) Ar ôl paragraff (2D) mewnosoder—

“(2E) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1E) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—

(a)   in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 2.1 per cent;

(b)  in any other case 3.8 per cent.”

 

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2015



([1])           1988 p. 41.

([2])           Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 1989/2303 (fel y’i diwygiwyd).